Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod

 

Adroddiad Blynyddol

 

Rhagfyr 2022

 

Trosolwg

 

Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn bodoli er mwyn hyrwyddo amddiffyniad cryfach o hawliau menywod. Siân Gwenllian AS sy’n cadeirio’r grŵp. Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) sy’n darparu cefnogaeth ysgrifenyddol. Ers dechrau 2022, mae'r grŵp wedi ymgynnull bum gwaith: 18 Chwefror 2022, 29 Ebrill 2022, 1 Gorffennaf 2022, 14 Hydref 2022 a 2 Rhagfyr 2022 (ar y cyd gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant). Cynhaliwyd pob cyfarfod ar-lein dros Zoom.

 

Mae'r grŵp wedi defnyddio'r cyfarfodydd hyn i ganolbwyntio ar nifer o faterion, gan gynnwys: adferiad sy'n canolbwyntio ar ofal yng Nghymru, cyllidebu ar sail rhywedd, rhywedd a diwygio cyfansoddiadol, a chyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant ynghylch trais ar sail rhywedd a goroeswyr Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF).

 

Bu'r grŵp hefyd yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith Menywod yn Ewrop (Cymru), a ddaeth yn rhan o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod ym mis Gorffennaf 2019.

 

Ymhlith y bobl sydd wedi bod yn bresennol yn y cyfarfodydd dros y flwyddyn mae cynrychiolwyr gwleidyddol, sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio i roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn menywod, unigolion sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau a staff cymorth Aelodau o'r Senedd.

 

 

1.       Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi:

 

·         Siân Gwenllian AS (Cadeirydd)

 

·         Jessica Laimann, WEN Cymru (Ysgrifennydd)

 

30 o Aelodau ychwanegol:

 

·         Jane Dodds AS

 

·         Heledd Fychan AS

 

·         Delyth Jewell AS

 

·         Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS

 

·         Sarah Murphy AS

 

·         Carolyn Thomas AS

 

·         Joyce Watson AS

 

·         Sioned Williams AS

 

·         Patience Bentu - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

·         Jess Blair -  Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru

 

·         Natasha Davies - Chwarae Teg

 

·         Catherine Fookes - WEN Cymru

 

·         Lenaine Foster-Bennett - EYST

 

·         Cerys Furlong - Chwarae Teg

 

·         Davina-Louise Green - Stonewall Cymru

 

·         Ele Hicks - Diverse Cymru


 

·         Leigh Ingham - Plan International UK

 

·         Sara Kirkpatrick - Cymorth i Ferched Cymru

 

·         San Leonard - Cwmnïau Cymdeithasol Cymru

 

·         Yr Athro Laura McAllister - Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

 

·         Nancy Lidubwi - Bawso

 

·         Dr Rachel Minto - Prifysgol Caerdydd

 

·         Rayner Rees - Soroptimyddion Rhyngwladol

 

·         Debbie Shaffer - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

 

·         Abi Thomas - Plaid Cymru

 

·         Megan Thomas - Anabledd Cymru

 

·         Hade Turkmen - Chwarae Teg

 

·         Nkechi Dawson - Cyngor Hil Cymru


 

2.    Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp

 

Cyfarfod 1

 

Pwnc: Adferiad sy'n canolbwyntio ar ofal yng Nghymru

 

Dyddiad: 18 Chwefror 2022

 

Yn bresennol:

 

Siân Gwenllian MS (Cadeirydd), Heledd Fychan AS, Delyth Jewell AS, Jenny Rathbone AS, Carolyn Thomas AS, Joyce Watson AS, Sioned Williams AS, Susan Himmelweit, Y Brifysgol Agored (Siaradwr), Hade Turkmen, Chwarae Teg, Tomos Evans, Chwarae Teg, Wanjiku Mbugua, Bawso, Jordan Brewer, Cymorth i Ferched Cymru, Sophie Weeks, Cymorth i Ferched Cymru, Vicky Lang, Cymorth i Ferched Cymru, Sarah Rees, Oxfam Cymru,  Lisa Isherwood, Soroptimyddion Rhyngwladol, Megan Thomas, Anabledd Cymru, Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru, Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Rhianydd Williams, TUC, Jane Fenton-May, Menywod yn Ewrop (Cymru), Kirsty Fox, Camlas, Catherine Fookes, WEN Cymru, Evelyn James, WEN Cymru, Jessica Laimann, WEN Cymru, Rose Widlake, WEN Cymru, Anouk Smith, WEN Cymru, Suzy Davies, Aelod o'r Bwrdd, WEN Cymru

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Rhoddodd yr Athro Susan Himmelweit gyflwyniad ar fanteision economaidd a manteision ehangach buddsoddi mewn gofal. RhoddoddJackie Jones nifer o ddiweddariadau ynghylch rhywedd a’r UE/Ewrop.

 

 

Cyfarfod 2

 

 

Pwnc: Adferiad sy'n canolbwyntio ar ofal yng Nghymru – sesiwn gyda Vaughan Gething AS

 

Dyddiad: 29 Ebrill 2022

 

Yn bresennol: Siân Gwenllian AS (Cadeirydd), Carolyn Thomas AS, Vaughan Gething AS, Hade Turkmen, Chwarae Teg, Nancy Lidubwi, Bawso, Jordan Brewer, Cymorth i Ferched Cymru, Nkechi Allen Dawson, Cyngor Hil Cymru, Rhian Connick, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, Megan Thomas, Anabledd Cymru, Dee Montague, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, Claire Morgan, Gofalwyr Cymru, Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Ele Hicks, Diverse Cymru, Jane Fenton-May, Menywod yn Ewrop (Cymru), Kirsty Fox, Camlas, Domenica Hidalgo, LSE (Siaradwr), Parbon Khan, LSE (Siaradwr), Evelyn James, WEN Cymru, Jennifer Ramsay, Swyddfa Paul Davies AS, Jessica Laimann, WEN Cymru (Siaradwr)

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Rhoddodd Jessica Laimann gyflwyniad ar yr angen am adferiad sy'n canolbwyntio ar ofal yng Nghymru, yn crynhoi pwyntiau allweddol o gyflwyniad yr Athro Himmelweit yn y cyfarfod diwethaf yn ogystal â data penodol i Gymru. Ymatebodd Vaughan Gething i'r cyflwyniad gan amlinellu agweddau allweddol ar waith Llywodraeth Cymru yn y maes gofal. Rhoddodd Parbon Khan a Domenica Hidalgo drosolwg o ganlyniadau prosiect ymchwil ar y cyd gan adran datblygu rhyngwladol LSE ac Oxfam ar ddeall a newid naratifau er mwyn rhoi gwerth ar waith menywod.


 

Cyfarfod 3

 

 

 

Pwnc: Rhywedd a diwygio cyfansoddiadol

 

Dyddiad: 1 Gorffennaf 2022

 

Yn bresennol: Delyth Jewell AS (Cadeirydd), Jane Dodds AS, Sioned Williams AS, Laura McAllister, Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (Siaradwr), Tomos Evans, Chwarae Teg, Wanjiku Ngotho-Mbugua, Bawso, Nancy Lidubwi, Bawso, Elyn Stephens, Plaid Cymru, Abigail Thomas, Plaid Cymru, Patience Bentu, Ymarferydd Amrywiaeth, Rhianydd Williams, TUC Cymru, Sarah Rees, Oxfam Cymru, Keira Evans, Trans Aid Cymru, Shash Appan, Trans Aid Cymru, Eve, Trans Aid Cymru, Megan Thomas, Anabledd Cymru,  Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Ele Hicks, Diverse Cymru, Jane Fenton-May, Menywod yn Ewrop (Cymru), Kirsty Fox, Camlas, Chloe Rees, Swyddfa Sarah Murphy AS, Catherine Fookes, WEN Cymru, Jennifer Ramsay, Aelod o'r Bwrdd, WEN Cymru, Jessica Laimann, WEN Cymru

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Rhoddodd yr Athro Laura McAllister, cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gyflwyniad ar sut y gallai hawliau menywod, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a'n hymrwymiad at groestoriadedd, gyd-fynd â'r broses ar gyfer diwygio cyfansoddiadol a sut y gallai aelodau gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Darparodd Jackie Jones nifer o ddiweddariadau ynghylch rhywedd a’r UE/Ewrop.

 

 

Cyfarfod 4

 

 

Pwnc: Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy gyllidebu ar sail rhywedd

 

Dyddiad: 14 Hydref 2022

 

Yn bresennol:

 

Yr Athro Angela O'Hagan (Siaradwr), Siân Gwenllian AS (Cadeirydd), Sioned Williams AS, Carolyn Thomas AS, Chloe Rees, Swyddfa Sarah Murphy AS, Sophie Nethercott, Swyddfa Jenny Rathbone AS, Natasha Davies, Chwarae Teg, Tomos Evans, Chwarae Teg, Hade Turkmen, Chwarae Teg, Hannah Griffiths, Grŵp Cyllideb Menywod Cymru, Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru,  Shahien Taj OBE, Women Connect First, Jane Fenton-May, Cynulliad Menywod Cymru, Gillian Brockley, Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Meg Thomas, Anabledd Cymru, Ele Hicks, Diverse Cymru, Abigail Thomas, Plaid Cymru, Nkechi Dawson, Cyngor Hil Cymru, Rhianydd Williams, TUC Cymru, Nancy Lidubwi, Bawso, Jen Ramsay, Aelod o’r Bwrdd, WEN Cymru, Jessica Laimann, WEN Cymru, Evelyn James, WEN Cymru,  Inioluwa Longe, WEN Cymru

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Rhoddodd yr Athro Angela O'Hagan gyflwyniad ar sut y gall cyllidebu ar sail rhywedd helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ac amlinellodd y cynnydd a wnaed yn yr Alban. Darparodd Jackie Jones nifer o ddiweddariadau ynghylch rhywedd a’r UE/Ewrop.


 

Cyfarfod 5

 

 

Pwnc: Trais ar sail rhywedd a chefnogi goroeswyr Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (cyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn Erbyn Menywod a Phlant)

 

Dyddiad:2 Rhagfyr 2022

 

Yn bresennol:

 

Sioned Williams AS, Siân Gwenllian AS, Jessica Laimann, WEN Cymru, Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru, Nancy Lidubwi, Bawso, Kirsty Thompson, JustRight Scotland, Laura Rainsford, Cymorth i Ferched Cymru, Aliya Iftikhar, Cymorth i Ferched Cymru, Maria Oftedal, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru (WWDAS), Paris Williams, Carol Harris, Hafan Cymru, Rachel Minto, Meg Thomas, Anabledd Cymru, Kelly Beaumont, Simon Borja, Cymru Ddiogelach, Tomos Evans, Chwarae Teg, Ele Hicks, Diverse Cymru, Eli Crouch-Puzey,  NSPCC, Michelle Whelan, Gwasanaethau Trais Domestig Calan, Amy Bainton, Barnardo's Cymru, Chris Dunn, Diverse Cymru, Larissa Peixoto, Maria a Stephanie, WWDAS, Sophie Weeks, Cymorth i Ferched Cymru.

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Rhoddodd Nancy Lidubwi (Bawso) drosolwg o'r sefyllfa yng Nghymru a pheilot y Swyddfa Gartref. Amlinellodd Kirsty Thomson (JustRight Scotland) ddull yr Alban o gefnogi goroeswyr Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus. Rhoddodd Laura Rainsford (Cymorth i Ferched Cymru) gyflwyniad ar y Pecyn Cymorth ar Hawliau Goroeswyr sy’n destun Rheolaeth Mewnfudo. Rhoddodd Dr Rachel Minto nifer o ddiweddariadau ar rywedd a'r UE/Ewrop.

 

3.       Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol

 

Fel uchod.

 

4.    Datganiad Ariannol Blynyddol

 

 

Dyddiad: 22 Rhag 2022

 

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod

 

 

Cadeirydd: Siân Gwenllian AS

 

 

Ysgrifennydd: Jessica Laimann, WEN Cymru

 

 

 

 

 

Treuliau’r Grŵp

Dim

£0.00

Costau’r holl nwyddau

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol

Ni chafwyd buddiannau.

£0.00

gyrff allanol

 

 

Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall

Ni chafwyd cymorth ariannol

£0.00

 

.

 

 

Cyfanswm y gost

£0.00